Dod o hyd i ffynonellau academaidd ar gyfer eich aseiniadau

Lleoliad:
Prif Adeilad y Celfyddydau Ystafell Gyfrifiadurol 2 (3ydd lawr)
Amser:
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019, 12:00–13:00
Cyflwynydd:
libsupport@bangor.ac.uk

Ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i wybodaeth academaidd berthnasol?  Nod y gweithdy yw rhoi awgrymiadau i chi ar sut i ddefnyddio’r Chwiliad Llyfrgell (Catalog y Llyfrgell) er mwyn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith academaidd yn gyffredinol.

Niferoedd wedi'u cyfyngu i 20 y sesiwn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ȃ: libsupport@bangor.ac.uk