Dyddiau Agored yn Sefydliad Confucius
- Lleoliad:
- Chinese Pavilion, Confucius Institute
- Amser:
- Dydd Gwener 24 Mai 2019, 14:00–16:00
(A phob wythnos tan ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2019)
Mae ein Dyddiau Agored yn Sefydliad Confucius yn dechrau eto ddydd Gwener 26 Ebrill 2019 (2:00-4:00 pm) - dyma'ch cyfle i ddod i weld beth sy'n mynd ymlaen yn eich Sefydliad Confucius Bangor!
Bydd y Diwrnod Agored yn cynnwys Clwb Tai Chi 2:00-3:00 pm a gweithgareddau diwylliannol Tsieineaidd (caiff y math o weithgaredd a gynhelir ei gadarnhau bob wythnos) 3:00-4:00 pm.
Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Mandarin, Caligraffi, Tai Chi, neu os ydych wedi'ch swyno gan ffasiwn, cerddoriaeth a chelf yn Tsieina, bydd rhywbeth diddorol i chi roi cynnig arno!
Byddwn hefyd yn darparu lluniaeth ysgafn (bisgedi a the / coffi) ac yn ystod y dydd cewch gyfle i weld seremoni de Tsieineaidd!
A chofiwch, mae hyn i gyd AM DDIM!
Felly pam na wnewch chi alw heibio a chael cipolwg ar y diwylliant Tsieineaidd, a dod â ffrindiau i rannu'r hwyl a'r profiad gyda hwy!