FLOWN

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, 19:30–21:30

Pirates of the Carabina

Theatr Bryn Terfel
Mawrth 14 (7.30pm) Mercher 15 (2pm & 7.30pm)
Iau 16 (7.30pm) Tachwedd
£16 safonol / £14 dros 60 / £10 dan 18

 
'Exquisite moments of beauty...brilliantly athletic.' 
The Guardian 

'A Mesmerising Family Show
Wales Online ★★★★★

Maent yn dychwelyd oherwydd y galw mawr yn sgil eu perfformiad yn y babell fawr ar Ffordd y Traeth yn 2015!

Mae FLOWN yn eich gwahodd i fyd hudolus y syrcas cefn llwyfan, lle mae bywyd yn troedio'r weiren uchel a swingio o'r trawstiau yn hollol ynfyd a hyfryd. Ond mae anghytuno, blinder a phob math o droeon trwstan yn bygwth difetha'r sioe ac mae trychineb dim ond un cam i ffwrdd! Gan gymysgu comedi ac anhrefn gyda champau corfforol a cherddoriaeth fyw, mae FLOWN yn fawr, yn brydferth ac yn fentrus o wallgo ac yn y diwedd wrth gwrs, mae popeth yn hedfan - hyd yn oed y band!

Gan droi o chwith bopeth rydych yn meddwl rydych yn ei wybod am y syrcas, bydd FLOWN yn cyfareddu'r holl deulu ac yn eich taro'n fud.