Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Forrest Gander: Darlleniad barddoniaeth

(Darlleniad Saesneg)

Lleoliad:
PL2/Cemlyn Jones Pontio
Amser:
Dydd Llun 18 Chwefror 2019, 18:30–19:30
Cyflwynydd:
Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru

Am Ddim

Cafodd Forrest Gander, awdur a chyfieithydd gyda graddau mewn daeareg a llenyddiaeth, ei eni yn anialwch Mojave, ac mae'n byw yng Nghaliffornia. Roedd ei lyfr Core Samples from the World, myfyrdod ar y ffyrdd yr ydym yn cael ein hadolygu a'n dehongli wrth gwrdd â dieithriaid, yn y rownd derfynol am wobr Pulitzer a'r National Book Critics Circle Award. Ymhlith ei deitlau diweddar mae'r nofel The Trace, a dau gyfieithiad: Then Come Back: the Lost Neruda Poems ac Alice, Iris, Red Horse: Selected Poems of Gozo Yoshimasu. Mae Be With, a gyhoeddwyd yn 2018, wedi bod ar y rhestr hir yn yr USA National Book Awards. Ef oedd Bardd Briggs-Copeland ym Mhrifysgol Harvard ac yn ddiweddarach, am nifer o flynyddoedd, yn Athro AK Seaver yn y Celfyddydau Llenyddol a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Brown.

Cyfllwynir gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru