Gŵyl Gerdd Bangor 2018

Lleoliad:
Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 3 Chwefror 2018, 00:00

Gŵyl Gerdd Bangor 2018

Thema: GOFOD

Dydd Sadwrn 3 Chwefror
Drwy’r Dydd

Bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn gyfle i archwilio gofod, planedau, sêr a galaethau drwy gyfrwng cerddoriaeth a gwyddoniaeth a fydd yn ysbrydoliaeth i’r teulu cyfan. Caiff Cerddoriaeth y Bydysawd seinio yng nghyngerdd y pianydd a’r cyfansoddwr amryddawn Zubin Kanga, sy’n cynnwys comisiynau newydd gan Maja Palser a Claire Victoria Roberts, ynghyd â darnau eiconig gan George Crumb a Patrick Nunn.

Yn Theatr Bryn Terfel a than arweiniad Scott Wilson bydd data gwyddonol o Wrthdrawydd Hadron yn sail i greu synau electronic byw yng nghyngerdd Electroacwsteg CYMRU ac Ymchwil Electroacwstig Ensemble Birmingham (BEER), ynghyd â cherddoriaeth acwsmatig gan Jo Thomas a chomisiwn newydd gan Ed Wright.

Drwy gydol y diwrnod cynhelir y digwyddiadau eraill o fewn gwahanol leoliadau yn Pontio, gyda chyfle i brofi y Planetariwm, cerddoriaeth i’r ieuengaf ohonom gyda Marie-Claire Howorth a chreu synau electronig oddi ar wefan BEER. Cawn ein cyfareddu gan gyfansoddiadau myfyrwyr a berfformir gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a chaiff offerynwyr lleol gyfle i fyr fyfyrio dan arweiniad Ensemble Fusion Prifysgol Bangor. Ceir digwyddiadau eraill megis dosbarth meistr piano a syllu ar y sêr ar y nos Wener.

* Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i www.gwylgerddbangor.org.uk

 

PRIF GYNGHERDDAU 

02/02/2018

Dosbarth Meistr Piano *
Zubin Kanga (piano)
(mewn cydweithrediad â CGWM,
GYWM a PB)
Neuadd Mathias, Ysgol Cerddoriaeth, PB
4pm
£15 cyfranogwyr/£3 arsylwyr

03/02/2018

The Music of the Spheres 
Zubin Kanga (piano)
Stiwdio
1pm
£12/£10/£5 myfyrwyr a dan 18

Dark Matter 
BEER + Electroacwstig CYMRU
Theatr Bryn Terfel
7.30pm
£15/£12/£5 myfyrwyr a dan 18

DIGWYDDIADAU AM DDIM 

02/02/2018

Profiad Syllu Sêr Bangor *
Ymgynnull yng Nghyntedd Ysgol Cerddoriaeth
6.30-8pm/ 8-9.30pm/ 9.30-11pm

03/02/2018

Camau Nesaf Cerdd *
gyda Marie-Claire Howorth
(addas ar gyfer plant 4 i 7 oed, gyda
goruchwyliaeth rhiant/gwarcheidwad)
Lefel 0
10-11am/11am-12pm

Digwyddiad Planetariwm *
(addas ar gyfer oedran 10 i fyny)
Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2
10am-12pm - Pob hanner awr

12.00pm
Great Equatorial (David Bedford)
Mannau cyhoeddus Pontio

DIGWYDDIADAU AM DDIM 

Moon 
Ensemble Fusion Prifysgol Bangor
Bar Ffynnon
14.15pm

Sesiwn A) Gweithdy Dark Matter *
Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2
Sesiwn B) Byr fyfyrio Cerddorol
Bar Ffynnon
3-4pm/4-5pm

Orbit 
Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor
Lefel 2
5pm

Sgwrs cyn y cyngerdd a Derbyniad yr Ŵyl *
Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2
6pm