Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

Gig Gwrth-hiliaeth

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2017, 19:00–23:00

Rhys Mwyn a Pontio yn cyflwyno

Gig Gwrth-hiliaeth

Nos Sadwrn, 16 Rhagfyr
O 7pm
Theatr Bryn Terfel
£14

Set DJ: Dennis Bovell
gyda
Welsh Rebel Dub
Dafydd Iwan
Banda Bacana
DJ Fflyffilyfbybl 


Ymunwch â ni ar gyfer gig arbennig i ddathlu cerddoriaeth o bob math. Y meistr reggae Dennis Bovell fydd y brif act. Mae’n adnabyddus fel cerddor dawnus sy’n chwarae’r gitâr, bas a’r allweddellau, yn beiriannydd sain, cyfansoddwr, cynhyrchydd ac arweinydd band sy’n parhau i arwain y sîn gyda’i gerddoriaeth arloesol a mentrus.

Mae wedi cydweithio gyda gormod o artistiaid i’w henwi, ond yn eu mysg mae I Roy, Steel Pulse ac Errol Dunkley, Johnny Clarke, The Slits, Chalice, The Thompson Twins a Bananarama yn ogystal ag ail-gymysgu albymau Marvin Gaye, Wet Wet Wet a The Boomtown Rats. Mae Bovell hefyd wedi gweithio gyda Fela Anikulapo Kuti, Alpha Blondy, Ryuichi Sakamoto, Dexy’s Midnight Runners, Edwyn Collins a Pablo Moses.

Dafydd Iwan fydd y cyflwynydd a Welsh Rebel Dub fydd yn agor y noson. Hefyd yn ymuno â ni ar y noson bydd y band gwych Banda Bacan sy’n siŵr o ddenu pawb i ddawnsio gyda’i rhythmau ffync, lladin, reggae ac affro-lladin.