Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Gwenno

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel
Amser:
Dydd Gwener 22 Mehefin 2018, 20:00

Gwenno

+ R.Seiliog

 

Le Kov (Lle’r Cof) yw ail albwm solo Gwenno Saunders, sy’n amlwg fel cantores, awdur caneuon a cherddor. Fe wnaeth Gwenno greu’r albwm hwn gan gydweithio unwaith yn rhagor â’r cynhyrchydd Rhys Edwards, gyda pheirianneg drymiau ychwanegol gan Gorwel Owen (Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals) a chymysgu a rhaglennu ychwanegol gan David Wrench.  

 

Mae Gwenno, a fagwyd yn llwyr drwy gyfrwng y Gernyweg a’r Gymraeg, yn edrych ar fythau a chwedlau Cernyw, a hanes goroesiad un o’n hieithoedd Brythonaidd llai adnabyddus. Drwy wneud hynny mae wedi creu un o albymau harddaf a mwyaf cyffrous 2018, sy’n gyforiog o fythau hynafol a themâu modern pwysig. Nid oes arnoch angen y daflen gyfieithu i werthfawrogi’r seicedelia hyfryd gyda blas y môr arni y mae Gwenno wedi’i chreu, gan alw i gof gerddoriaeth ei phlentyndod  – Brenda Wootton, Alan Stivell, BUCCA ynghyd â The United States of America, White Noise a Serge Gainsbourg. Yn Le Kov clywir piano hiraethus, drymiau tanbaid a llinellau synth sydd fel pe baent yn ymestyn ar draws y gorwel.

 

Oed: 16+

Gig sefyll


Nos Wener 22 Mehefin

8pm

Theatr Bryn Terfel

£12 ymlaen llaw / £14 ar y drws