Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Gwerthuso Addysgu a Dysgu

Lleoliad:
Ystafell Seminar Wheldon
Amser:
Dydd Mercher 25 Ebrill 2018, 13:00–15:01
Cyflwynydd:
Dr Kate Exley
Cyswllt:
CELT

Gweithdy yw hwn sy'n ystyried elfen bwysig o addysgu, sef gwerthuso. Bydd y gweithdy rhyngweithiol yn ystyried materion yn cynnwys cyd-destun a chanolbwynt y gwerthusiad, theorïau sy'n llunio'n dull gweithredu a ffyrdd y gallwn werthuso. Yn ogystal, bydd y sesiwn yn edrych ar ddau ddull yn fanwl a sut y gallwn gau'r cylch adborth. Cewch ddigon o gyfle i gael trafodaeth a rhannu arfer da yn ystod y gweithdy.

Beth y gellwch ddisgwyl ei ddysgu

Erbyn diwedd y sesiwn, dylai cyfranogwyr allu gwneud y canlynol:

  • Adnabod angen a phwysigrwydd gwerthuso mewn addysgu
  • Cael cipolwg ar wahanol ddamcaniaethau sy'n ymchwilio i werthuso
  • Datblygu eu gwybodaeth am ddulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer gwerthuso effeithiol
  • Asesu'r gwahanol ffynonellau data y gellir eu defnyddio ar gyfer gwerthuso

Bwcio lle