Gwyddor Rhyngweithio Cymdeithasol

Lleoliad:
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mawrth 11 Medi 2018 – Dydd Mercher 12 Medi 2018

Gweithdy deuddydd sy'n cyfuno gwyddoniaeth gyda thrafodaeth, cyfnewid syniadau a rhwydweithio.

Mae Diwrnod 1 i wyddonwyr siarad â gwyddonwyr eraill, yn cynnwys sgyrsiau a gweithdy i hwyluso cydweithio gwyddonol.

Mae Diwrnod 2  i wyddonwyr ac aelodau'r gymuned siarad â'i gilydd ac mae'n cynnwys sgyrsiau, sesiwn bosteri a sesiwn drafodaeth i wyddonwyr, clinigwyr, addysgwyr a'r gymuned ehangach.  

Darperir cinio a phaned ar y ddau ddiwrnod.

I gael gwybod mwy, neu gofrestru i fynd i un diwrnod neu ddau ddiwrnod o'r digwyddiad am ddim hwn, ewch i: https://sites.google.com/view/devsocialvislab/events/the-science-of-social-interaction-workshop.