Llawysgrifau Mostyn

Lleoliad:
National Library of Wales, Aberysytwyth
Amser:
Dydd Gwener 2 Tachwedd 2018, 09:30–17:00
Cyflwynydd:
Institute for the Study of Welsh Estates

Dros y cenedlaethau, cydnabuwyd y teulu Mostyn fel un o deuluoedd tiriog mwyaf dylanwadol Cymru, ac mae’r casgliadau a grëwyd ganddynt yn sail gadarn i ymchwil pellach. Trwy gyfrwng cyflwyniadau byrion, bydd y symposiwm cyhoeddus undydd hwn yn dangos ystod o astudiaethau’n seiliedig ar Lawysgrifau Mostyn y Llyfrgell Genedlaethol a chasgliadau perthynol.

Mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor, bydd y Symposiwm yn dangos gwerth diwylliannol ac ymchwil casgliadau un o blastai enwocaf Cymru.

Croeso i Bawb

Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg

Mynediad am ddim trwy docyn: events.library.wales

Dogfennau cysylltiedig: