Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Llechi

Pontio a 9Bach yn cyflwyno

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Llun 7 Awst 2017, 20:00–21:15
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

Llechi


Theatr Bryn Terfel
7+9 Awst 2017, 8pm
£15 safonol / £13 dros 60 / £12 myfyrwyr a dan 18 oed

Cafodd Llechi ei berfformio yn gyntaf i theatr lawn fel rhan o raglen agoriadol Pontio yn 2016. Mae’n waith ar y cyd newydd sbon sy’n cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema’r chwarel a hanes Bethesda.  

Mae hefyd yn cydnabod y chwarelwyr, oedd yn benderfynol o sicrhau gwell dyfodol i’w plant ac a gyfrannodd o’u tal isel tuag at sefydlu Prifysgol Bangor – Prifysgol y mae Pontio yn rhan ohoni.  

Grŵp gwerin amgen yw 9Bach sy’n teithio Prydain a’r byd ac a gafodd eu henwebu yn ddiweddar am y Grŵp Gorau yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 2017, yn dilyn cipio’r wobr am yr Albwm Orau am Tincian yn 2015. Yn ymuno â 9Bach ar y llwyfan bydd Lleuwen Steffan, Siân James, Caleb Rhys, Côr y Penrhyn, Vertical Dance Kate Lawrence, John Ogwen a’r bardd Martin Daws.  

Diolch arbennig i
Guto ‘Cwm Idwal’ Roberts
Ieuan Wyn
Nebert
Gaynor Elis-Williams
Gwen Angharad Gruffudd
Mared ac Alan Jones
Tim Cumine
Storiel
Llyfrgell Prifysgol Bangor  

Mae’r ail-lwyfaniad o Llechi, sef cydweithrediad 9Bach / Pontio yn bosib oherwydd cefnogaeth hael Cronfa Bangor.