Macbeth: Darllediad Byw - THEATR GEN BYW

Lleoliad:
Pontio Cinema
Amser:
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2017, 19:30–21:30
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28
Sinema

Nos Fawrth, 14 Chwefror, 7.30pm
Ail-ddangosiad gydag is-deitlau Saesneg 3 Mawrth, 8.15pm
£12/£10

 

Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a chyda chefnogaeth gan Chapter

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd. Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

Addas ar gyfer oedran 11+

6-7pm Sgwrs cyn y dangosiad byw, Stiwdio, Lefel 2
Gwyn Thomas, Llunyddiaeth a'r Llwyfan
Pontio ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno sgwrs gyda'r Athro Gerwyn Wiliams yng nghwmni Dr William R. Lewis, Yr Athro Jason Walford Davies ac Ifor ap Glyn, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg ac fe fydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we. AM DDIM ond rhaid archebu tocyn.