Menna Cazel & Eugene Asti

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Iau 23 Tachwedd 2017, 19:30–21:30

Pontio yn cyflwyno

Menna Cazel (Soprano) ac Eugene Asti (Piano)


Nos Iau, 23 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 oed

Franz Schubert Lachen und Weinen (Rückert), D. 777 Erster Verlust (Goethe),
D. 226 Die Liebe hat gelogen (Platen), D.751 Die Forelle (Schubart), D. 550
Robert Schumann Frauenliebe und –leben (Chamisso), op. 42

EGWYL

Sergei Prokofieff 5 Poems of Anna Akhmatova, op.27
Leonard Bernstein I Hate Music!
Dilys Elwyn-Edwards Caneuon Natur

Mae gan Menna Cazel Davies lais soprano hyfryd, cynnes a thelynegol, presenoldeb cryf ar lwyfan a gallu perfformio naturiol. Perfformiodd gân operatig yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 2014 gydag Erste Blumenmädchen yn Parsifal ar gyfer Oper Leipzig. Mae eisoes wedi mwynhau llwyddiant mawr yng Nghymru, gan ennill bob un o'r prif wobrau i gantorion dan 25 oed, ysgoloriaeth W. Towyn Roberts a Gwobr Goffa Osborne Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hi hefyd oedd enillydd gwobr 'Llais y Dyfodol' yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2013.

Mae Eugene Asti, a anwyd yn Efrog Newydd, yn un o gyfeilyddion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, ac mae wedi perfformio gyda llawer o artistiaid o fri yn cynnwys y Fonesig Felicity Lott, Syr Thomas Allen, Angelika Kirchschlager, Syr Bryn Terfel a’r ddiweddar Fonesig Margaret Price.

Mae Eugene yn artist Steinway swyddogol ers 2009, ac mae'n dychwelyd i Fangor ar ôl cyngerdd gyda Syr Williard White yn 2014 pan werthwyd pob tocyn. Y tro hwn bydd yn perfformio detholiad o ganeuon o'r Almaen, Rwsia, Cymru ac America.