Modiwl Dadansoddi Busnes Strategol (SBA)
NWBA - Modiwl Rhan 1
- Lleoliad:
- Prifysgol Bangor
- Amser:
- Dydd Mawrth 19 Medi 2017 – Dydd Mawrth 3 Hydref 2017
- Cyflwynydd:
- Academi Busnes Gogledd Cymru
- Cyswllt:
- Academi Busnes Gogledd Cymru
- 01248 382869
- Mwy o wybodaeth:
- Dilynwch y ddolen yma ar gyfer manylion pellach ac ar gyfer archebu eich lle
Cam cyntaf Academi Busnes Gogledd Cymru (NWBA) yw'r Modiwl Dadansoddi Busnes Strategol sydd wedi'i anelu at berchnogion ac arweinwyr busnes yn ogystal â phenaethiaid adran. Prif nod y modiwl yw hwyluso’r cyfle i unrhyw berchennog neu arweinydd busnes neu bennaeth adran adolygu pob agwedd o’u sefydliad mewn modd strategol. Gwneir hyn gyda mentor busnes, tiwtoriaid a rhwydwaith o berchnogion busnes eraill gyda phwyslais ar dwf tymor hir a chynaladwyedd.
Mae ein modiwl blaenllaw (SBA) yn darparu dau ddiwrnod llawn i ffwrdd o'r swyddfa i berchenogion/ rheolwyr busness, er mwyn iddynt gael canolbwyntio yn llawn ar ddatblygu strategaeth busnes cystadleuol ar gyfer cyflawni twf cynaliadwy yn y tymor hir.
Diwrnod 1: Medi 19
Diwrnod 2: Hydref 3ydd
Mae llefydd yn gyfyngedig a chaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.