Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Modiwl Dadansoddi Busnes Strategol (SBA)

NWBA - Modiwl Rhan 1

Lleoliad:
Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mawrth 10 Ebrill 2018 – Dydd Mawrth 24 Ebrill 2018
Cyflwynydd:
Academi Busnes Gogledd Cymru
Cyswllt:
Academi Busnes Gogledd Cymru
01248 382475
Mwy o wybodaeth:
Dilynwch y ddolen yma ar gyfer manylion pellach ac ar gyfer archebu eich lle

Cam cyntaf Academi Busnes Gogledd Cymru (NWBA) yw'r Modiwl Dadansoddi Busnes Strategol sydd wedi'i anelu at berchnogion ac arweinwyr busnes yn ogystal â phenaethiaid adran. Prif nod y modiwl yw hwyluso’r cyfle i unrhyw berchennog neu arweinydd busnes neu bennaeth adran adolygu pob agwedd o’u sefydliad mewn modd strategol. Gwneir hyn gyda mentor busnes, tiwtoriaid a rhwydwaith o berchnogion busnes eraill gyda phwyslais ar dwf tymor hir a chynaladwyedd.

Mae ein modiwl blaenllaw (SBA) yn darparu dau ddiwrnod llawn i ffwrdd o'r swyddfa i berchenogion/ rheolwyr busness, er mwyn iddynt gael canolbwyntio yn llawn ar ddatblygu strategaeth busnes cystadleuol ar gyfer cyflawni twf cynaliadwy yn y tymor hir.

Diwrnod 1: Ebrill 10fed 2018

Diwrnod 2: Ebrill 24ain 2018

Mae llefydd yn gyfyngedig a chaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.