Rhagfyr 2019

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Nadolig yng Nghymru gyda Calan

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 2019, 19:30–21:30

Dathlwch dymor y Nadolig gyda bagbibau, ffidlau a dawnsio stepio.

Mae'r band rhyngwladol hwn o Gymru, sy'n enillwyr sawl gwobr, yn ôl ar y ffordd gyda'u rhythmau heintus a'u dawnsio egnïol i ddathlu gŵyl y Nadolig. Cawn fwynhau eu seiniau ffres a bywiog sy'n rhoi gwedd a gwisg newydd i hen draddodiadau. Mae'r sioe'n cynnwys canu Plygain traddodiadol - ffurf ar ganu sydd wedi bod yn boblogaidd ers canrifoedd yn eglwysi a chapeli Cymru.

Yn y sioe ceir llawer o alawon a chaneuon tymhorol yr ydym i gyd mor hoff o'u clywed yn cael eu chwarae ar offerynnau traddodiadol, gan gynnwys ffidlau, chwibanau, bagpibau Cymreig (!) a dawnsio step gan bencampwr yn y maes hwnnw.