Medi 2019

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Noson gyda Mark Beaumont

Ymunwch â'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer i groesawu Mark wrth iddo gyflwyno ffilm a ffotograffiaeth.

Lleoliad:
Pontio, Darlithfa 5
Amser:
Dydd Mercher 18 Medi 2019, 18:30–21:00
Cyflwynydd:
Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Mwy o wybodaeth:
https://tinyurl.com/yyukg2wx

Mae Mark Beaumont (BEM) yn anturiaethwr, awdur a gwneuthurwr rhaglenni dogfen. Mae ei straeon o'r lôn a'r môr yn ddiddorol ac ysbrydoledig. Mae ei angerdd am ddygnwch wedi mynd a fo ar hyd y byd, o'r top i'r gwaelod, ac i rai o ardaloedd mwyaf anfaddeuol y byd. Yn fwyaf diweddar, mae o wedi cael Record y Byd am y daith unigol gyflymaf ar hyd Affrica a ddwywaith wedi curo Record y Byd am feicio o gwmpas y byd, gan ddal y teitl 18,000 milltir hwn mewn amser o ddim ond 78 diwrnod a 14 awr. Dros y degawd diwethaf mae rhaglenni dogfen a llyfrau epig Mark wedi mynd â gwylwyr a darllenwyr i dros 100 o wledydd, i’r Arctig, y mynyddoedd uchel ac o amgylch y Gymanwlad. Tu allan i chwaraeon a darlledu, mae gan Mark gyfoeth o brofiad fel llysgennad busnes ac mae'n gweithio gyda nifer o elusennau a sefydliadau addysgol. Mae torri recordiau'r byd a bod y cyntaf yn y byd i wneud pethau anhygoel wedi bod yn ddilysnod Mark erioed.

Mark BeaumontMark Beaumont
Ymunwch â'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer i groesawu Mark wrth iddo gyflwyno ffilm a ffotograffiaeth, wrth siarad yn agored i gynnig mewnwelediad hynod ddiddorol i'w yrfa fel anturiaethwr, gwneuthurwr rhaglenni dogfen, awdur, a llysgennad busnes.

Cofrestrwch yma i gael eich tocynnau AM DDIM i'r digwyddiad cyffrous ac ysbrydoledig hwn.

Methu dod i'r digwyddiad? Ymunwch trwy gysylltu â ffrwd byw'r digwyddiad am 18:30.

Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.