Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Pecyn Cymorth Hybu’r Defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned

Eisteddfod Genedlaethol

Lleoliad:
Pabell Prifysgol Bangor, Maes yr Eisteddfod, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
Amser:
Dydd Iau 10 Awst 2017, 10:00–11:00

Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol & Mentrau Iaith Cymru

Bydd Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys  o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn lansio pecyn newydd ar gyfer hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’r pecyn yn ymestyniad o waith ymchwil gwreiddiol a wnaethpwyd ar ran Llywodraeth Cymru, Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned.

Yn sgil yr ymchwil hwn ymwelwyd ag wyth cymuned yng Nghymru i holi’r cyhoedd ac ymarferwyr am enghreifftiau o syniadau gwreiddiol er mwyn hybu’r Gymraeg yn gymunedol. Mae’r pecyn hwn yn seiliedig ar gyfraniadau a rhannwyd yn ystod gweithdai’r prosiect. Bydd yna gyfle i weld cynnwys y pecyn, holi cwestiynau, a chael trafodaeth bellach am yr heriai amrywiol a wynebai’r Gymraeg yn gymunedol.

Cyllidwyd y prosiect hwn gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.