Pedwarawd Llinynnol Allegri

Lleoliad:
Stiwdio, Pontio
Amser:
Dydd Iau 30 Tachwedd 2017, 19:30–22:00

Pedwarawd Llinynnol Allegri

Mewn cysylltiad â The Radcliffe Trust

Stiwdio
Nos Iau, 30 Tachwedd, 7.30pm
Dydd Gwener, 1 Rhagfyr, 1pm
30 Tachwedd: £14/£12 gostyngiadau/£5 myfyrwyr a dan 18
1 Rhagfyr: £12/£8 gostyngiadau/£5 myfyrwyr a dan 18

Rhaglen 30 Tachwedd 
Mozart A Fwyaf K464
Szymanovsky 2
Schubert G

Rhaglen 1 Rhagfyr 
Beethoven op 132

Mae grŵp siambr hynaf Prydain, y Pedwarawd Allegri, yn 62 oed. Sefydlwyd y grŵp yn 1953 gan Eli Goren ac William Pleeth ac mae wedi chwarae rhan allweddol ym myd cerddorol Prydain yn gweithio gyda chyfansoddwyr fel Benjamin Britten, Michael Tippett, Elizebeth Maconchy, John Woolrich, Peter Fribbins, Anthony Payne, James MacMillan, Matthew Taylor ac Alec Roth yn fwyaf diweddar, gan arwain at gomisiynau a recordiadau newydd.

Mae gwahoddiadau rheolaidd i gymdeithasau cyngherddau a neuaddau cyngherddau enwog yn sefyll ochr yn ochr â chysylltiadau newydd fel y Southbank Sinfonia a'u gŵyl yn Anghiari, yr Eidal, a theithiau ACE wedi eu lleoli yng Nghaergrawnt.

Maent yn athrawon ar ymweliad preswyl ym Mhrifysgolion Bangor a Middlesex ac yn mwynhau gwahoddiadau rheolaidd i addysgu/hyfforddi mewn colegau cerddoriaeth a chyrsiau cerddoriaeth siambr amatur ar hyd a lled y DU.