Prifysgol Bangor yn cofio Hedd Wyn
Eisteddfod Genedlaethol
- Lleoliad:
- Pabell Prifysgol Bangor, Maes yr Eisteddfod, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
- Amser:
- Dydd Gwener 11 Awst 2017, 10:30–11:30
Archifau a Chasgliadau Arbennig
Cyfle i Eisteddfotwyr gael gweld dwy lawysgrif wreiddiol yn llaw Hedd Wyn o gasgliad archifau’r Brifysgol; sef fersiwn o’r awdl fuddugol yn Eisteddfod Penbedw 1917 a llythyr ganddo tra’n gwasanaethu’n y fyddin at ei deulu.
Bydd Huw Garmon a Judith Humphreys yn ymuno efo ni ac yn darllen detholiad o waith y bardd a bydd yr Archifydd yn rhoddi braslun o’r casgliad sydd i’w ganfod yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mangor o eiddo Hedd Wyn.
Bydd cyfle i ymwelwyr weld y llawysgrifau yn ei cas arddangos ym Mhabell y Brifysgol drwy’r dydd gydag aelod o’r Archifau a Chasgliadau ar gael i ateb unrhyw gwestiwn.”