Pwy Piau Ynni?
Eisteddfod Genedlaethol
- Lleoliad:
- Bangor University stand, Eisteddfod Maes, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
- Amser:
- Dydd Sadwrn 12 Awst 2017, 11:00–12:00
Pwy Piau Ynni? Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymunedau
Bydd adnodd addysgiadol newydd sbon yn cael ei lansio ar stondin Prifysgol Bangor am 11 o’r gloch ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Mae’r pecyn, a’i cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnwys nofel graffig sydd yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu ein system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor. Mae’r stori a’r adnoddau addysgiadol cysylltiedig, wedi cael ei datblygu er mwyn codi ymwybyddiaeth y Cymry tuag at y potensial o fod yn berchnogion ar ei hadnoddau naturiol nhw eu hunain. Dewch i glywed mwy!