Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM)

Lleoliad:
Amser:
Dydd Mawrth 16 Ionawr 2018 – Dydd Sul 21 Ionawr 2018

Theatr Bryn Terfel
Ionawr 16 (Rhagddangosiad), 7.30pm - £14/£12 dros 60/£8 myfyrwyr a dan 18
Ionawr 17-20, 7.30pm - £16/£14 dros 60/£10.50 myfyrwyr a dan 18
Dydd Sul 21 Ionawr, 2pm - £16/£14 dros 60/£10.50 myfyrwyr a dan 18

Cyfres arbennig o berfformiadau'r sioe syrcas fecanyddol newydd sbon gan wneuthurwyr FLOWN, cyn iddynt symud ymlaen i'r Roundhouse yn Llundain.

Mentrwch i fyd o anrhefn mecanyddol, lle mae gan bopeth ei feddwl ei hun a chysylltiadau'n ymddangos mewn ffyrdd annisgwyl.

Dyma sioe anarchaidd a gwefreiddiol fydd yn rhoi pleser digymysg i chi gyda'i set hynod glyfar a cherddoriaeth fyw wreiddiol. Mae Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) yn treiddio'n ddewr i ddychymyg rhyfedd a rhyfeddol dau acrobat sy'n perfformio wrth ochr ei gilydd. Wrth i'r holl gelfi, gosodiadau a ffitiadau ddod yn fyw, mae ein harwyr yn dechrau cwestiynu lle maen nhw'n ffitio i'r cyfan ac maent yn mynd ati i ad-drefnu cydrannau eu byd. Gyda thrapîs sy'n siglo'n fertigol, rhaffau di-ddiwedd, carwsél sy'n troelli, gwifren uchel a grisiau hynod anodd eu trin, mae RUHM yn ddameg chwareus, ddoniol, fodernaidd am amser, technoleg a'r grymoedd sy'n ein gyrru.

Datblygwyd gyda chefnogaeth gan Pontio, Bangor, Roundhouse, Llundain, Ffwrnes, Llanelli a Chynghorau Celfyddydau Lloegr a Chymru.