Rheoli Projectau: Rheoli’r PhD
- Lleoliad:
- Venue details are sent via calendar after booking
- Amser:
- Dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018, 09:00–16:30
- Cyflwynydd:
- Doctoral School
- Cyswllt:
- Doctoral School
- 01248 382357
Y cwestiynau i'w gofyn a'r pethau pwysicaf yr ydych chi angen eu gwybod.Yn eich gyrfa ymchwil, mae'n debyg y byddwch yn gorfod trefnu, dadansoddi a chyflwyno llawer iawn o wybodaeth. Hefyd byddwch yn gorfod rheoli eich amser, gosod nodau ac adolygu cynnydd - ac mae'n debyg y byddwch yn gorfod gweithio gydag eraill i'w hannog i wneud yr un fath. Yn aml gosodir y set sgiliau hon o dan bennawd "Rheoli Projectau" ac mae amrywiaeth eang o gyflogwyr yn chwilio amdani.
Erbyn diwedd y sesiwn, dylai'r rhai sy'n bresennol allu:
- Deall meini prawf rheoli projectau'n llwyddiannus ac ystyried hefyd pam mae rhai projectau'n methu
- Deall, gwerthuso a gweithredu gwahanol ddulliau i helpu cynllunio ymchwil a chyfathrebu'r cynllun hwnnw
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd dadansoddi budd-ddeiliaid a risg
Pa un a yw eich PhD yn seiliedig ar dîm rhyngwladol a chasglu data, neu ar syniad a ddatblygir gennych chi eich hun, bydd y cwrs hwn yn ffordd fuddiol a gwerthfawr o dreulio diwrnod.