Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

SAGE Publishing: How to Get Published: Traditional and Innovative Approaches to Publishing

Lleoliad:
Greek room, Main Arts
Amser:
Dydd Mercher 6 Mehefin 2018, 14:00–15:00
Cyswllt:
Beth Hall
01248 382081

Trosolwg o'r sesiwn
Mae’r sesiwn awr o hyd hon wedi'i hanelu at fyfyrwyr doethuriaeth ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Bydd yn trafod sut i gyhoeddi mewn dulliau traddodiadol fel llyfrau a chyfnodolion, sut i gynyddu eich effaith a sut i ymwneud â dulliau mwy arloesol o ledaenu gwybodaeth, megis cyfryngau cymdeithasol a blogiau.
Mae Dr Bronia Flett-Humble wedi gweithio ym maes cyhoeddi academaidd ers 5 mlynedd, yn y Deyrnas Unedig ac yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod ei chyfnod fel Golygydd Comisiynu mae wedi helpu cannoedd o awduron i gyhoeddi eu gwaith fel astudiaethau achos, setiau data a fideos ar brif lwyfan digidol SAGE: SAGE Research Methods. Mae gan Bronia gefndir academaidd, gyda gradd Meistr mewn Ymchwil a PhD mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberdeen. Ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Gwerthiant i SAGE Publishing yn Yr Alban, Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru.

Bydd y sesiwn hon fwyaf perthnasol i fyfyrwyr/ymchwilwyr yn y Gwyddorau Cymdeithas, ond gall fod o ddiddordeb i eraill hefyd.

Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg yn unig.

Rhannwch gyda'ch cydweithwyr ac archebwch drwy Eventbrite:

https://www.eventbrite.com/e/sage-publishing-how-to-get-published-traditional-and-innovative-approaches-to-publishing-tickets-46317785744