Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Seminar Effaith: Cyfathrebu Effeithiau Negyddol

Lleoliad:
Thoday F1
Amser:
Dydd Mercher 24 Ionawr 2018, 13:00–14:00
Cyswllt:
Saskia Pagella

Trosolwg o’r sesiwn

A yw eich ymchwil yn cael effaith ar gymdeithas efallai nad yw rhai defnyddwyr yn ei groesawu? Sut ddylech chi gyfathrebu effeithiau y byddai rhai yn eu hystyried fel newid negyddol? 

Mae Dyfrig Hughes yn Athro Ffarmacoeconomeg a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd yn arweinydd academaidd Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'n athro anrhydeddus yn Adran Ffarmacoleg Foleciwlaidd a Chlinigol, Prifysgol Lerpwl. 

Cafodd astudiaeth achos effaith Dyfrig yn REF2014 ganmoliaeth uchel a dangosodd sut y gall tystiolaeth ymchwil arwain at ddatblygu polisïau ar sail tystiolaeth, er ei bod yn creu effeithiau negyddol i rai rhanddeiliaid.

Dewch i'r seminar/cymhorthfa Effaith gyntaf yn 2018 a chlywed ein harbenigwr preswyl yn siarad am reoli, olrhain a chyfathrebu ‘effeithiau negyddol’ a’i droi'n astudiaeth achos effaith lwyddiannus iawn ar gyfer REF.

Bwcio lle