Sesiwn Ymgyfarwyddo PURE
- Lleoliad:
- REO Ystafell Gyfarfod, Llawr Gwael Adeilad Eryri, Canolfan Rheolaeth
- Amser:
- Dydd Mercher 30 Awst 2017, 10:30–11:30
- Cyswllt:
- Claire Davis
Trosolwg o'r sesiwn
Er mwyn rheoli gweithgareddau ymchwil mae Prifysgol Bangor wedi gweithredu System Rheoli Gwybodaeth Ymchwil o’r enw PURE. Gallwch fewngofnodi i PURE drwy’r cyfeiriad gwe yma http://pure.bangor.ac.uk. Mae’r system hon yn anelu at ddarparu atebion ar gyfer yr ymchwilwyr eu hunain yn ogystal a staff cefn swyddfa sydd yn gweinyddu ymchwil o fewn y Brifysgol. Mae’r system PURE yn cefnogi effeithlonrwydd sefydliadol a hefyd yn darparu ffenestr siop broffesiynol ei naws ar gyfer holl weithgarwch ymchwil y Brifysgol trwy borth ymchwil newydd http://ymchwil.bangor.ac.uk. Mae PURE yn dwyn ynghyd gwybodaeth ymchwil o ffynonellau mewnol ac allanol ac yn hwyluso ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth i strategaethau ymchwil a chydweithio Bangor, asesu ymarferion, RCUK yng nghyd destyn mynediad agored HEFCE.
Bydd y sesiwn yn ymdrin a’r canlynol:
Trosolwg Cyffredinol PURE
- Eich proffil personol, negeseuon e-bost a negeseuon PURE, porth PURE
- Cynnig allbynnau ar gyfer REF
- Rheoli eich allbynnau a’r ystorfa PURE
- Rheoli eich Effeithiau a Gweithgareddau ymchwil
- Cyfle ar gyfer unrhyw gwestiwn
Claire V Davis, Rheolwr Asesu Ymchwil, REO
Michelle Walker, Rheolwr yr Ystorfa a Data Ymchwil, Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau