Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Shakespeare’s Globe ar Daith - The Merchant of Venice, The Taming of the Shrew a Twelfth Night

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel
Amser:
Dydd Iau 7 Mehefin 2018 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2018

Shakespeare’s Globe ar Daith


The Merchant of Venice

The Taming of the Shrew

Twelfth Night

 

Sut oedd cwmni yn teithio yn nyddiau Shakespeare? Pan oedd y theatrau’n cau yn Llundain, rydym yn gwybod y byddai criw bychan o actorion, a oedd yn perfformio amryw o rannau mewn tair neu bedair o ddramâu, yn gadael y ddinas ac yn mynd ar daith. Gwyddom hefyd pan fyddent yn cyrraedd cartref o bwys mai’r penteulu oedd yn dewis  pa ddrama neu adloniant y byddent yn ei pherfformio.

 

Felly, bydd theatr y Globe Shakespeare yn torri tir newydd rhwng Mai ac Awst 2018, gydag wyth actor yn mynd ar daith gan gynnig dewis o dair drama i gynulleidfaoedd: The Merchant of Venice, The Taming of the Shrew a Twelfth Night. Byddant yn perfformio’r tair drama yn y Globe cyn mynd ar daith genedlaethol a rhyngwladol.

 

Ymunwch â ni yma yn Pontio ar gyfer unig berfformiadau Shakespeare’s Globe yng Nghymru. Ddim yn rhai i osgoi her newydd, byddwn yn trawsnewid Theatr Bryn Terfel i gynnig y profiad yna o’r ‘Globe’, gyda lle i sefyll yn ogystal ag eistedd.

 

Hefyd, i barhau â’r traddodiad, bydd aelodau mwyaf pwerus y tŷ, sef y gynulleidfa yn yr achos yma, yn cael dewis pa ddrama yr hoffent ei gweld. Bydd hynny’n sicr yn achosi cryn gyffro. 

 

‘Thy frank election make’ 

(All’s Well That Ends Well, Act 2 Golygfa 3

 

Nos Iau 7 Mehefin 7.30pm 

Dydd Gwener 8 Mehefin 1pm (i ysgolion yn bennaf: Twelfth Night)

Nos Wener 8 Mehefin 7.30pm 

Nos Sadwrn 9 Mehefin 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£18-£6.50