Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Sparks in the Dark

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Iau 2 Tachwedd 2017, 19:30–21:30

Electroacwsteg CYMRU

Sparks in the Dark: Noson o dân gwyllt sonig


Nos Iau, 2 Tachwedd 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£10/£8 gostyngiadau /£5 myfyrwyr a rhai dan 18

Cyngerdd gyda thema tân a thân gwyllt, gyda'r cyfansoddwr gwadd Adrian Moore.

Mae Adrian Moore yn ffigwr blaenllaw mewn cerddoriaeth acwsmatig yn y DU, a nodweddir ei waith gan yr ymdeimlad o egni ffrwydrol a'i drawsffurfiadau sonig rhyfeddol. Bydd y noson yn cynnwys amrywiaeth ysgubol o 'dân gwyllt' sonig anweledig, ynghyd â'r gorau o gerddoriaeth acwsmatig ddiweddar yng Nghymru.

Perfformir y rhaglen gan 'Acousmonium' Electroacwsteg CYMRU, sef cerddorfa o uchelseinyddion yn llenwi pob rhan o Theatr Bryn Terfel, gan greu profiad gwirioneddol wefreiddiol o sain mewn gofod.