Sut i Arddangos, Gwerthu a Gwneud Arian ar eich Stondin

Menter ac Arloesi (E047)

Lleoliad:
Darlithfa 2, Prif Adeilad y Celfyddydau
Amser:
Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018, 14:00–16:00
Cyflwynydd:
Helen Hodgkinson, Indie Business Training
Cyswllt:
Eirian Jones
01248 388356
Mwy o wybodaeth:
Archebwch ar-lein

Peidiwch â methu’r gweithdy unigryw yma i helpu’r rhai sydd am gael stondin yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr i wneud argraff gyda’i arddangosfa a gwerthu mwy. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y byd manwerthu, mae Helen Hodgkinson yn hyfforddwraig arbenigol gyda’r Academi Sgiliau Manwerthu. Yn y gweithdy, bydd hi’n helpu myfyrwyr efo stondinau ddod o hyd i ffyrdd gwell i hyrwyddo eu cynnyrch yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr ac i gysylltu efo’r cwsmeriaid er mwyn gwerthu mwy! Mae’r gweithdy’n agored hefyd i fyfyrwyr a graddedigion sy’n ystyried cychwyn busnes manwerthu neu siop dros dro ac yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gweithdy yn rhyngweithiol a gwahoddwyd i gyfranogwyr ddod ag enghreifftiau o’i cynnyrch efo nhw.

Gall cyfranogwyr ennill 5XP tuag at eu Cyfrif Cyflogadwyedd.

Mae rhaid archebu lle - https://showsellmakemoney.eventbrite.com/?aff=MyBangor