Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Sut i Gael Llwyddiant Efo'ch Stondin

(yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr)

Lleoliad:
Teaching Space 6, first floor, Wheldon
Amser:
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2017, 14:00–16:00
Cyflwynydd:
Helen Hodgkinson
Cyswllt:
Lowri Owen @ B-Fentrus
01248 388424
Mwy o wybodaeth:
https://www.eventbrite.co.uk/e/sut-i-gael-llwyddiant-efoch-stondin-yn-y-farchnad-nadolig-how-to-make-your-stall-a-success-at-the-tickets-39693551481

Peidiwch â methu’r gweithdy unigryw yma i helpu’r rhai sydd am gael stondin yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr i wneud argraff gyda’i arddangosfa a gwerthu mwy. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y byd manwerthu, mae Helen Hodgkinson yn hyfforddwraig arbenigol gyda’r Academi Sgiliau Manwerthu. Yn y gweithdy, bydd hi’n helpu myfyrwyr efo stondinau ddod o hyd i ffyrdd gwell i hyrwyddo eu cynnyrch yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr ac i gysylltu efo’r cwsmeriaid er mwyn gwerthu mwy! Mae’r gweithdy’n agored hefyd i fyfyrwyr a graddedigion sy’n ystyried cychwyn busnes manwerthu neu siop dros dro ac yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gweithdy yn rhyngweithiol a gwahoddwyd i gyfranogwyr ddod ag enghreifftiau o’i cynnyrch efo nhw.

Bydd rhaid bwcio eich lle trwy'r linc yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/sut-i-gael-llwyddiant-efoch-stondin-yn-y-farchnad-nadolig-how-to-make-your-stall-a-success-at-the-tickets-39693551481