Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Rhagfyr 2019

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Sut i gael Nadolig cynaliadwy

Lleoliad:
Y Bowlen Bysgod, Bangor Student Union
Amser:
Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019, 13:00–14:00

Nadolig eco-gyfeillgar i chi gyd

Mae’r Nadolig yn amser arbennig o’r flwyddyn, ond mae hefyd yn gyfnod gwastraffus, cynhyrchir 3 miliwn tunnell ychwanegol o sbwriel yn ystod yr ŵyl. Wrth gysidro popeth o bapur lapio, deunydd pecynnu, i wastraff bwyd di angen, does dim rhyfedd fod llawer ohonom yn ystyried gwneud gwelliannau er mwyn cael Nadolig mwy cynaliadwy.

Ymunwch â ni ddydd Mawrth nesaf i gael ‘tips’ defnyddiol ar sut i leihau eich effaith amgylcheddol y Nadolig hwn. Gallwch hefyd roi cynnig ar wneud eich addurniadau Nadolig eich hun!