Awst 2017

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Y Cylchgrawn Astudiaethau Cymreig

Eisteddfod Genedlaethol

Lleoliad:
Pabell Prifysgol Bangor, Maes yr Eisteddfod, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SS
Amser:
Dydd Llun 7 Awst 2017, 11:00–12:00
Cyflwynydd:
Ysgol Hanes & Archaeoleg

Ysgol Hanes: Y Cylchgrawn Astudiaethau Cymreig

Yn 2017 bydd Prifysgol Bangor yn cyhoeddi cyfnodolyn ysgolheigaidd newydd, sef y Cylchgrawn Astudiaethau Cymreig.  Bydd hwn yn gylchgrawn aml-ddisgyblaethol, ac yn cynnwys erthyglau amrywiol - hanesyddol, llenyddol, cymdeithasegol ayyb - gan groesawu cyfraniadau gan academwyr proffesiynol, ôl-raddedigion ac ymchwilwyr annibynnol.  Bydd y sesiwn yma'n gyfle i ddysgu mwy am y cylchgrawn, yng nghwmni rhai o'r golygyddion, i fynegi diddordeb mewn cyfrannu ac i roi blas o'r math o gynnwys a ddisgwylir yn y rhifyn cyntaf.