Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Y Niwl

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 21 Hydref 2017, 20:00–22:30

Lansiad Albwm Newydd

Y Niwl

Omaloma | Pasta Hull | Ffracas

Nos Sadwrn, 21 Hydref 8pm
Theatr Bryn Terfel
£10 ymlaen llaw/£12 ar y noson

Mae Y Niwl yn ôl gyda’u hail albwm hir-ddisgwyliedig o’r un enw. Y llynedd, teithiodd y band i Stiwdio Mwnci ym mhellafoedd Sir Benfro i recordio deg trac o’u syrff offerynnol unigryw, ac o’r diwedd, mae’r canlyniad yn barod i’w glywed. Byddwch yn barod am noson sy’n siŵr o’ch denu i ddawnsio wrth i’r pedwarawd ddod â thonnau de Califfornia i lannau gogledd Cymru.

Bydd OmalomaPasta Hull a Ffracas yn cefnogi Y Niwl ar y noson.