Ysgol Glanaethwy: Camllisafu
- Lleoliad:
- Theatr Bryn Terfel
- Amser:
- Dydd Iau 5 Gorffennaf 2018 – Dydd Gwener 6 Gorffennaf 2018
Ysgol Glanaethwy: Camllisafu
Pan oedd Rhys yn yr ysgol gynradd, tipyn o gur pen oedd camsillafu a cham ynganu ambell air rŵan ac yn y man; ond dim mymryn mwy o gur pen na methu ambell benalti neu golli’r bws adre o’r ysgol - mae pawb yn gwneud camgymeriad weithiau. Dim ond yn yr ysgol uwchradd y dechreuodd y baglu droi’n hunllef i’r hogyn oedd ychydig yn wahanol i’r gweddill, ac yn cael trafferth hefo’i ddarllen a’i sgwennu. Fesul diwrnod, fesul ffrind, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth, a does gan Rhys na chroen fel eliffant i anwybyddu’r bwlis, na’r gallu i droi clust fyddar i’r geiriau gelyniaethus.
Sioe liwgar, gerddorol am blant a phobl ifanc wedi ei pherfformio gan blant a phobl ifanc Ysgol Glanaethwy yw Camllisafu. Wedi teithio’r byd, mae Glanaethwy bob amser yn falch o gael dychwelyd adref i Fangor i berfformio.
Nos Iau 5 Gorffennaf
Nos Wener 6 Gorffennaf
7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12
10% i ffwrdd i grwpiau o 10 neu fwy