Newyddion Diweddaraf

Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol

Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol.

Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018

Prifysgol Bangor yn ennill tair gwobr yn y National Student Housing Awards

Adnoddau rhyngrwyd ac ailgylchu yn rhoi Prifysgol Bangor ar y blaen yn y National Student Housing Awards

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y rheolaeth amgylcheddol orau a'r rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr yn y National Student Housing Awards.

Mae'r gwobrau'n gyfan gwbl seiliedig ar adborth gan ddegau o filoedd o fyfyrwyr yn y DU i arolwg a luniwyd gan Red Brick Research.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2018

Digwyddiad LifeStartFest cyntaf yng Nghymru

Cyngor gyrfaoedd, rhwydweithio a pizza i fyfyrwyr yng Nghymru!

Mae Jack Newton newydd raddio, wedi ennill Her LifeStart ac wedi derbyn swydd gyda JCDecaux, yr asiantaeth hysbysebu awyr agored rhyngwladol. Bydd Jack yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl LifeStart cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 26 Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2018

Mae ffermio 'cynnyrch uchel' yn gwneud llai o niwed i'r amgylchedd nag a dybid o'r blaen - a gallai helpu arbed cynefinoedd

Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib mai amaethyddiaeth ddwys yw'r dewis "lleiaf drwg" lle mae bwydo'r byd yn y cwestiwn ac mi allai arbed rhywogaethau - mae systemau sy'n gwneud defnydd effeithlon o'r tir yn fodd i atal trawsnewid tir gwyllt yn dir ffermio.

 

Mae'n bosib bod amaethyddiaeth sy'n fwy eco-gyfeillgar yr olwg ond sy'n defnyddio mwy o dir yn peri mwy o niwed amgylcheddol fesul pob uned fwyd na ffermio "cynnyrch uchel" sy'n defnyddio llai o dir, yn ôl canfyddiadau astudiaeth newydd.

Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r ffordd orau o ateb y galw cynyddol am fwyd a diogelu bioamrywiaeth yr un pryd yw sicrhau cymaint o fwyd ag sy'n bosib yn gynaliadwy o'r tir rydym yn ei ffermio ar hyn o bryd, ac "arbed y cynefinoedd naturiol rhag yr arad".  

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2018

Sgwrs gan Iolo Williams

Bydd y naturiaethwr Cymraeg, Iolo Williams yn trafod ei yrfa mewn sgwrs yn Pontio, Prifysgol Bangor, nos Fercher 26 Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2018

Bydd seren ‘No Offence’, Joanna Scanlan, yn dod adref i Pontio i hyrwyddo ei ffilm indie newydd, ‘Pin Cushion’

Mae’n bleser gan staff Pontio groesawu’r actores a’r sgriptwraig adnabyddus, Joanne Scanlan (The Thick of It, Getting OnNo Offence) i’r Sinema ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn dangosiad o’i ffilm newydd, PIN CUSHION gan y cyfarwyddwr newydd, Deborah Haywood, ddydd Sadwrn 15 Medi am 8.15pm.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018

Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso

Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd.

Er mwyn derbyn preswylwyr newydd i safle Pentref Myfyrwyr y Santes Fair, gweithredir ar y cyd â’r cyngor lleol a’r heddlu system unffordd dros dro ar gyfer traffig sy’n cyrraedd Pentref Myfyrwyr y Santes Fair o gyfeiriad Lôn Bobty.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018

Bydd cynllun y Brifysgol yn dechrau mynd i'r afael â phrinder meddygon teulu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru

Wrth i’r Gymru wledig wynebu diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth sy’n heneiddio ac ar gynnydd, mae tair prifysgol yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n ceisio dod â meddygon ifanc yn ôl i Ogledd a Chanolbarth Cymru. 

Bydd rhaglen CARER (Llwybr Addysg Cymunedol a Gwledig), sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd gael blwyddyn o’u haddysg mewn practisau Meddygon Teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru, fel eu bod yn cael profiad amhrisiadwy o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018

Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai

Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi.

Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru.  Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Bangor.  Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018

Free school meal funds help pay for school trips too – but self-imposed stigma stops parents claiming

 

Dyma erthygl yn Saesneg gan  o’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018

Band Jazz Tryfan yn ymuno â Circa Tsuica ar gyfer eu sioe syrcas Now or Never

Daw’r cwmni Ffrengig Circa Tsuica â'u Pabell Fawr i Fangor gan ymuno â Band Jazz Tryfan ar gyfer eu sioe syrcas ddiweddaraf, Now or Never.  

Cyflwynir gan Crying Out Loud fel rhan o Circus250, dathliad cenedlaethol i nodi pen-blwydd y syrcas fodern yn 250 oed 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018

Gwasanaeth newydd arloesol i fyfyrwyr

Mae cydweithrediad arloesol rhwng Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Bangor a Rhaglen Doethuriaeth Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr genedlaethol bwysig.

Yn wyneb y cynnydd mewn trallod, teimladau hunanladdol a hunan-niweidio ymysg myfyrwyr yn y DU, daeth Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Bangor, rhan o Wasanaethau Myfyrwyr Bangor, ynghyd ag arbenigwyr o Raglen Doethuriaeth Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru i gynnig triniaeth sy'n cynnwys cefnogaeth ymarferol ac sy'n anelu at leihau'r risg o ymddygiad o'r fath. Mae'r project wedi cael ei roi ar y rhestr fer am un o wobrau y Times Higher Education, yn y dosbarth ‘Outstanding Support for Students’.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018

Life's purpose rests in our mind's spectacular drive to extract meaning from the world

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Guillaume Thierry, o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2018

Extreme weather in Europe linked to less sea ice and warming in the Barents Sea

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yueng-Djern Lenn a Benjamin Barton o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a Camille Lique o’r Institut Français de Recherche pour l’Exploitation de la Mer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018

Gall dulliau ymchwil sy'n dod o hyd i droseddwyr cyfresol helpu i arbed teigrod

Gallai offeryn proffilio daearyddol a ddefnyddir i ddal troseddwyr cyfresol helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu gan deigrod, yn ôl gwyddonwyr a fu'n cydweithio ar astudiaeth ymchwil cadwraeth arloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2018

Humphrey Llwyd: the Renaissance scholar who drew Wales into the atlas, and wrote it into history books

This article by Huw Pryce, Professor of Welsh History, was originally published on The Conversation. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2018

Alumnus y Flwyddyn 2018

Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ac yn cynghori'r Brifysgol ynglŷn â dyfarnu gwobr Alumnus y Flwyddyn. Yn ystod yr wythnos raddio roedd Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi mai Gwilym Rees-Jones yw Alumnus y Flwyddyn 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018

Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018

Eight bedtime stories to read to children of all ages

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Raluca Radulescu, a Dr Lisa Blower o’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2018

From Salad Cream to the Severn bridge, renaming is an emotive issue

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Sarah Louise Wheeler, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2018

Prifysgol Bangor yn cyhoeddi enwau’r unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol eleni.

Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i’w meysydd penodol.

Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio’r Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Ymateb i adroddiad Reid ar ymchwil ac arloesi

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Graeme Reid i’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Jo Rycroft-Malone: “Mae gan Gymru nifer o gryfderau ym meysydd ymchwil ac arloesi ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi meysydd o ragoriaeth, yn ogystal â datblygu meysydd newydd o arbenigedd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2018

Pencampwr Codi Pwysau’r Gymanwlad yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Godwr Pwysau a gynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018

Perfformiad o Chongqing yn hybu cysylltiadau Cymru-Tsieina

Er mwyn meithrin cysylltiad Cymru â Chongqing yn ne-orllewin Tsieina, fe wnaeth Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ddod â Chwmni Perfformio Chongqing i Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn gynharach yr wythnos hon (1 Tachwedd), lle buont yn cyfareddu'r gynulleidfa gyda pherfformiad syfrdanol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd. 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017