Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion

Newyddion: Mai 2020

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yw Prifardd Eisteddfod T!

Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod T gyntaf erioed, datgelwyd mai’r Prifardd eisteddfodol yw Osian Wyn Owen o’r Felinheli.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2020

Grŵp cyntaf o raddedigion Nyrsio PGDip llwybr carlam dwy flynedd yn ymuno â gweithlu nyrsio Cymru

Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru ôl-radd o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi graddio a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrsys oedolion.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2020

Llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Eisteddfod yr Urdd rithiol gyntaf erioed!

This year, the usual format of the Urdd Eisteddfod had to be adapted due to the Covid-19 situation, and the first ever virtual Eisteddfod was held - Eisteddfod T.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2020

Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt

Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i'w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'u rhieni, yn ogystal â phobl sy'n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws - a thu hwnt

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020

Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn ennil gwobr Prif Lenor Eisteddfod T

Mared Fflur Jones o Ddolgellau yw enillydd Prif Lenor Eisteddfod T, gyda darn o waith “llawn cariad a gwewyr” yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020

Trin gwenwyn clorocwin

Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020

Sut gall Awdurdodau Lleol annog dinasyddion i gymryd rhan mewn trawsnewid ynni

Mae pecyn newydd Ynni Glân i bobl Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd i ddinasyddion Ewrop fod yn gyd-gynllunwyr ac arweinwyr ar brojectau cynhyrchu ynni, trafnidiaeth a datblygiadau cymdeithasol sy’n adnewyddadwy a chynaliadwy, yn hytrach na bod dan orfodaeth i dderbyn projectau o'r fath.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill prif seremoni gyntaf Eisteddfod T

Wyneb cyfarwydd i Eisteddfod yr Urdd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T, yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed. Heddiw (Dydd Llun, Mai 25), mewn seremoni ar sgrin a sain, datgelwyd mai Cai Fôn Davies o Benrhosgarneddsy’n ennill gwobr y Prif Gyfansoddwr.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2020

Bydd morwellt yn elwa o'r newid byd-eang

Dengys ymchwilwyr y bydd morwellt yn elwa o'r cynnydd yn y tymheredd a CO2 yn y cefnforoedd oherwydd bydd eu gallu i gaffael nitrogen yn cynyddu, heb gyfyngu ar eu twf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Gall coedwigoedd trofannol ymdopi â'r gwres, i ryw raddau

Mae coedwigoedd trofannol yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd newid yn yr hinsawdd, ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Science yn awgrymu y gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach, os bydd gwledydd yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae coedwigoedd trofannol y byd yn storio gwerth chwarter canrif o allyriadau tanwydd ffosil yn eu coed. Mae pobl yn ofni y gall cynhesu byd-eang leihau'r storfa hon os bydd llai o goed yn tyfu neu os bydd mwy o goed yn marw, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.

Roedd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn un o dîm ymchwil rhyngwladol a fesurodd dros hanner miliwn o goed mewn 813 o goedwigoedd ledled y trofannau i asesu faint o garbon sy'n cael ei storio gan goedwigoedd sy'n tyfu o dan amodau hinsoddol gwahanol heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2020

Although the celebratory event was not held this year, the Students’ Union are pleased to have been able to announce the winners of this year’s SLTAs.

Organised by the Students’ Union, the SLTAs gives students the opportunity to show their support and appreciation to staff who have shown dedication and hard work throughout the students’ time at Bangor. The 2020 winners were selected by a panel of students from a pool of over 500 nominations.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Gwefan newydd yn agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newydd i agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2020

Prifysgol Bangor a Phrifysgolion Santander yn cefnogi Pŵer Pobl ar gyfer PPE (Cyfarpar Diogelu Personol)

Mae Prifysgolion Santander yn cefnogi Prifysgol Bangor a'r rhanbarth i greu Cyfarpar Diogelu Personol am ddim

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2020

Sgwrs am gadwraeth primatiaid

Zoe Melvin, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol yn cyfweld Dr Tim Davenport, cyfarwyddwr cadwraeth rhywogaethau (Affrica), y Wildlife Conservation Society.

Wrth i gyfres newydd BBC One Primates ddod i ben nos Sul (17 Mai, 8:15 PM BST) mae primatolegwyr o Brifysgol Bangor (@BangorPrimates) yn parhau i drydar eu sylwadau am y gyfres ar Twitter dan yr hashnod #BangorDoesPrimates.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2020

Mae gwyddonwyr Bangor yn troi gwlyptiroedd a gafodd eu niweidio'n storfeydd carbon

Mae tîm o wyddonwyr wedi datblygu dull newydd i helpu corsydd mawn a brofodd niwed ddal mwy o garbon, a rhyddhau llai o'r nwyon tŷ gwydr i'r awyr.

Dywed y grŵp, sydd o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y gogledd, y gallai eu gwaith arwain at ddatblygu arferion newydd lle mae adfer mawndiroedd yn y cwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2020

Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir

Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl.

Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft. 

Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed.

Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd.

Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn  naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Arbenigwyr o Brifysgol Bangor yn cynnig fideos arlein i helpu plant gadw’n heini yng nghyfnod cyfyngiadau COVID-19

Mae rhaglen ymarfer corff arloesol i blant wedi cael ei lansio yng ngogledd Cymru ynghanol ofnau y gallai'r cyfyngiadau symud yn sgil Covid-19 arwain at gynnydd enfawr mewn gordewdra ymhlith plant.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020

Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop

Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS)  - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020

Darganfod Bad Glanio o'r Ail Ryfel Byd oddi ar arfordir Cymru yn datrys dirgelwch 77 oed

Mae cydweithrediad rhwng tîm o wyddonwyr a thechnegwyr môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor, a'r archeolegydd morwrol a hanesydd o fri rhyngwladol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth, wedi arwain at ddigwyddiad annisgwyl. Maent wedi darganfod ac adnabod bad glanio a gollwyd ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2020

Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol

Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr  Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol. Y Wobr Arian yw'r clod uchaf sydd yn flynyddol am ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth mewn ysgolion a cholegau sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020

Lockdown challenges – what evolution tells us about our need for personal space

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020

Prifysgol Bangor yn hyfforddi 170 o staff gofal dwys ychwanegol i ymladd y pandemig

A 170-strong team of nursing staff have been trained to work in critical care units across North Wales and save as many lives as possible during the Covid-19 pandemic.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020