Teithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor ar Dydd Sadwrn 23 o Fehefin. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Mae’r teithiau tywys yma yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor i gynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor yn Saesneg am 11.00yb-12.00yp ac yn Gymraeg 12:30yp-1:30yp.

Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2018