Darlith Goffa Flynyddol Gyntaf Dennis Crisp ar Wyddorau Môr, Tachwedd 2016

Roedd Dennis Crisp (1916-1990) yn un o fiolegwyr môr mwyaf adnabyddus Prydain a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor a datblygu ei dylanwad yn fyd-eang.

Traddodwyd y ddarlith, "Professor Dennis J. Crisp at Bangor University: A Visionary for Global Environmental Change", gan yr Athro Donal T. Manahan, un o gyn-fyfyrwyr Dennis a aeth ymlaen i gael gyrfa ragorol ac sydd erbyn hyn yn athro  gwyddorau biolegol ym Mhrifysgol Southern California yn Los Angeles.