Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Noson gyda Syr Damon Buffini gyda William Lewis

Mwynheuodd alumni Prifysgol Bangor, Cymrodyr er Anrhydedd a gwestai noson yn y National Liberal Club, Llundain ar 27 Tachwedd 2019.

Cafodd aduniad gyda diodydd a chanapés ei ddilyn gan sgwrs rhwng Syr Damon Buffini, un o’r partneriaid a sefydlodd Permira a Chadeirydd y Royal National Theatre, a William Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Dow Jones a Chyhoeddwr The Wall Street Journal. Gwnaethant drafod yr etholiad sydd i ddod, Brexit a'r celfyddydau mewn sgwrs fywiog, a chafodd ei ddilyn gan gwestiynau o’r gynulleidfa.