Digwyddiadau Archifau a'r Casgliadau Arbennig

Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n casgliadau.
Mae arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dyddiau agored yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. 
Rydym yn cynnal sesiynau cynefino i fyfyrwyr ac yn cynnig y cyfle i gymdeithasau lleol ac ysgolion ddarganfod mwy am ein casgliadau. 
Byddwn hefyd yn cymeryd rhan yn yr wythnos genedlaethol “Archwiliwch eich Archif” sy’n digwydd fis Tachwedd. 
Bydd ein digwyddiadau oll yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ac ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Dilynwch ni ar Twitter

Darlith Flynyddol y Archifau

30 Hydref 2024 Prif Ddarlithfa’r Prif Adeilad 5.30
Darlith Flynyddol y Archifau : Yr Athro Terence Dooley o Brifysgol Maynooth, Iwerddon
Mae teitl ei ddarlith eto i’w gadarnhau.

Arddangosfa'r Archifau a Chasgliadau Arbennig 2024

DATHLU'R 140

Agorodd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ar 18 Hydref, 1884. Gyda’r
digwyddiad hwn gwireddwyd gobeithion a dyheadau llawer ers dyddiau Owain Glyndŵr
am Brifysgol yng ngogledd Cymru. Gyda phum deg wyth o fyfyrwyr, dyma ddechrau'r
daith i un o sefydliadau pwysig yr ardal. Heddiw, mae ymhell dros 11,000 o fyfyrwyr yma
o bob cwr o’r byd yn elwa o’r traddodiad Cymreig cryf sy’n credu yng ngwerth addysg i
bawb.

Yn yr arddangosfa hon cawn gipolwg ar hanes cyfoethog y Brifysgol am y 140 mlynedd
ddiwethaf. O'r nifer fawr o ddeunyddiau sydd gan Archifau'r Brifysgol ei hun, cafwyd
detholiad o enghreifftiau cynrychioliadol, ac sy’n dwyn atgofion i’r cof, i ddarlunio bywyd
a gwaith myfyrwyr a staff ddoe a heddiw.

Cliciwch yma i fynd at yr arddangosfa

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?