Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Mawrth 2019

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

‘Wives left-behind: A study of the impacts of men’s international labour migration on their wives in Bangladesh’

Lleoliad:
Ystafell y Cyngor, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mercher 20 Mawrth 2019, 13:30–14:30
Cyflwynydd:
Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Cyswllt:
Dr Marcel Stoetzler

Wives left-behind: A study of the impacts of men’s international labour migration on their wives in Bangladesh’

Marzana Kamal (Prifysgol Bangor)

 

Mae astudiaethau ar y croestoriad rhwng rhywedd a mudo llafur wedi canolbwyntio'n bennaf ar fudwyr sy'n ferched. Ond mewn llawer o wledydd sy'n datblygu, mae mudwyr llafur yn parhau i fod yn ddynion yn bennaf ac mae eu gwragedd yn aros ar ôl. Mae'r papur hwn yn dadansoddi'r newidiadau mewn statws merched oherwydd bod eu gwŷr wedi mudo i wledydd eraill. Mae'r data'n cynnwys: 51 o gyfweliadau lled-strwythuredig ac arsylwi a chyfrannu mewn dwy ardal ym Mangladesh: Bogra a Munsiganj. Mae'r cyntaf yn cynnwys pentrefi anghysbell tra bod yr olaf yn faestrefol. Mae'r dadansoddiad cychwynnol yn awgrymu nad yw mudo gan ddynion yn dod â newidiadau trawsnewidiol mewn gwerthoedd cymdeithasol i wella statws merched.

Mae Marzana Kamal yn fyfyriwr PhD trydedd flwyddyn yn astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hyn, cwblhaodd ei MA mewn Rhywedd a Datblygiad Rhyngwladol ym Mhrifysgol Warwick, fel Ysgolhaig Rhannu'r Gymanwlad.