Ebrill 2019

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
282930

Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450-1850: Cynhadledd deuddydd i archwilio casglwyr, llyfrgelloedd a llyfrau yng Nghymru.

Lleoliad:
Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Clos y Gadeirlan, Aberhonddu, LD3 9DP
Amser:
Dydd Mercher 24 Ebrill 2019 – Dydd Iau 25 Ebrill 2019
Cyflwynydd:
Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
Cyswllt:
Dr Shaun Evans
Mwy o wybodaeth:
Archebwch eich lle

24 a 25 Ebrill 2019

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Clos y Gadeirlan, Aberhonddu, LD3 9DP

Mae'n bleser gan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor gyhoeddi manylion cynhadledd deuddydd i edrych ar ddarllen, casglwyr, llyfrgelloedd a llyfrau yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd ar dir Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, yn harddwch Bannau Brycheiniog. Bydd yn cynnwys darlith gyhoeddus gan Dr David Pearson, sesiwn panel gyhoeddus, a chyfres o sgyrsiau cyffrous ar ystod eang o agweddau yn ymwneud â llyfrau a darllen yng Nghymru.

Gellir lawrlwytho rhaglen ddrafft yma ar ôl 1 Chwefror.

Pris y gynhadledd yw £45 y pen.  Mae hyn yn cynnwys cinio ar y ddau ddiwrnod, a the/coffi a chacennau cri yn ystod seibiannau rhwng sesiynau.  Rhowch wybod i ni wrth archebu lle os oes gennych unrhyw ofynion arbennig o ran diet neu fynediad.  Bydd swper cynhadledd gyda'r ar 24 Ebrill yn yr Eglwys Gadeiriol ei hun.  Bydd hyn yn costio £22 ychwanegol, a dylid archebu trwy'r system archebu ar-lein.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd, felly cofiwch archebu lle cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch booksmanuscriptswales@gmail.com neu iswe@bangor.ac.uk

Edrychwn ymlaen at eich gweld.