Ysgol Graddedigion
Mae Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busness yn rhoi cefnogaeth i holl fyfyrwyr ôl-radd yn y Coleg hwnnw ym Mhrifysgol Bangor. Mae ein darpariaeth yn cynnwys y meysydd canlynol:
- rydym yn trefnu cyfleoedd hyfforddi a datblygu blynyddol sy'n benodol ar gyfer ein pynciau
- rydym yn cynnig mannau astudio penodedig i fyfyrwyr ôl-radd, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer cyfarfodydd cymdeithasol lle gall ôl-raddedigion o wahanol Ysgolion Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ddod at ei gilydd
- rydym yn cynnig cyllid ar raddfa fechan i gynorthwyo ôl-raddedigion i deithio gyda'u hastudiaethau
- rydym yn cyfrannu at broffil ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes drwy gael staff ymchwil a myfyrwyr ôl-radd i gydweithio a meithrin gweithgareddau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr megis grwpiau darllen/ysgrifennu a chynadleddau ôl-radd.
Ar ddechrau bob blwyddyn bydd yr Ysgol Graddedigion yn cynnal Diwrnod Cynefino Ôl-radd i’n myfyrwyr newydd.
Cysylltiadau’r Ysgol Graddedigion
Cyfarwyddwr Ysgol Raddedigion Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Dr Helena Miguélez-Carballeira
E-bost: h.m.carballeira@bangor.ac.uk
Swyddog Gweinyddu Myfyrwyr Ôl-radd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
E-bost: postgradcah@bangor.ac.uk
Am y newyddion diweddaraf gallwch ein dilyn ar Trydar.