Newyddion: Ionawr 2017

Lucy Huskinson yn darlithio i fyfyrwyr pensaernïaeth Prifysgol Caerfaddon

Yn ddiweddar, rhoddodd aelod o staff Lucy Huskinson ddarlith i dros gant o fyfyrwyr pensaernïaeth yn yr adran pensaernïaeth a pheirianneg sifil ym Mhrifysgol Caerfaddon. 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2017

Sawl gradd Meistr yn derbyn achrediad gan y CMI

Mae sawl rhaglen ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Bangor wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig ym Mhrydain sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth ym meysydd rheoli ac arwain.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2017

Arthur – Arweinydd pawb

Mae’r Arthur chwedlonol yn dal i hawlio ein sylw a’n difyrru hyd heddiw, ac mae’n ymddangos fod ei apêl wedi parhau ar hyd y canrifoedd.

Dyna ddysgodd y gynulleidfa yn ystod lansiad diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol. Boed yn ddyn o gig a gwaed neu’n chwedl, mae Arthur y brenin neu’r arweinydd, wedi ei defnyddio gan ddiwylliannau ledled Ewrop dros y canrifoedd a fu, ac wedi cyflawni sawl swyddogaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017

SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr

Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd.  Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017

David Crystal Day

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017

Darlith gyhoeddus yn canolbwyntio ar Gymru'r oesoedd canol cynnar

Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar. Dyna fydd pwnc darlith gyhoeddus a roddir gan yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Nancy Edwards, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 31 Ionawr am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw 'Early medieval Wales: material evidence and identity', ac mae croeso i bawb ddod iddi. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

ICC expands definition of war crimes to cover combatants in the same armed forces

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermot  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

Iddewiaeth a'r Holocost yn Full Metal Jacket Stanley Kubrick

Mae’r Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn gwahoddiad i draddodi darlith ar ffilm Stanley Kubrick, Full Metal Jacket, yn JW3: Jewish Community Centre London fory (Ionawr 18).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017

Child victim or brutal warlord? ICC weighs the fate of Dominic Ongwen

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermott  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017

Darlithydd yn mynd i'r afael â 'diffyg democrataidd' Cymru

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei benodi'n aelod o dasglu a sefydlwyd er mwyn edrych ar ffyrdd o gau'r 'diffyg democrataidd' yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2017