Newyddion: Mawrth 2017

How football’s richest clubs fail to pay staff a real living wage

Dyma erthygl yn Saesneg ganTony Dobbins o’r Ysgol Fusnes a Peter ProwseSheffield Hallam University, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Tri i gystadlu ar ran y Brifysgol mewn cystadleuaeth entrepreneuriaeth

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli’r Brifysgol ar gyfer rownd ranbarthol cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.

Yn dilyn cystadlu yn erbyn dros 30 o geisiadau eraill i gyrraedd y  rhestr fer o chwe phroject entrepreneuraidd, gwobrwywyd Ned Hartfiel, sydd newydd dderbyn gradd PhD, a myfyrwyr gradd Meistr mewn Seicoleg, Alex Bailey a Daniel Pascoe gyda siec gwerth £200 at eu ceisiadau. Byddant hefyd yn gymwys i dderbyn cefnogaeth busnes trwy raglen B-Fentrus Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Academydd o Fangor yn cefnogi rhieni ifanc

O ystyried y penawdau a welir am dadau eithriadol ifanc a daliadau cyffredinol am geisiadau am fudd-daliadau a thai, mae magu plant gan rieni ifanc iawn wedi dod i gael ei weld fel perygl i gymdeithas.  Fodd bynnag, mae astudiaeth ymchwil ddiweddar o Fangor ar y project 'Rhieni Ifanc Ni' a gynhelir gan GISDA ar draws Gogledd Orllewin Cymru, yn herio'r safbwyntiau hynny. 

Rhoddodd y project Rhieni Ifanc Ni gefnogaeth unigol i dros 100 o rieni dan 25 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn famau.  Ei brif nod oedd datblygu gallu rhieni i ymdopi.   Roedd agweddau ar hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad economaidd drwy gefnogi rhieni i ennill cymwysterau perthnasol, cefnogi cysylltiadau teuluol a galluogi rhieni i ffurfio rhwydweithiau â rhieni eraill. 

Cyflawnodd Prifysgol Bangor astudiaeth flwyddyn o hyd yn ymwneud â phrofiadau rhieni o 'fagu gwytnwch'.    Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Myfanwy Davies ac fe'i gwnaed gan Karen Wyn Jones ac Elin Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Catalogio’r Casgliad Arthuraidd

Cyrhaeddwyd carreg filltir yn hanes catalogio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yr wythnos hon, pan gatalogiwyd y 1,000fed llyfr.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. 

Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Britons see volunteering as a hobby or a way to network rather than a chore

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones myfyrwraig PhD o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Blwyddyn Dramor

Mae'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn hynod falch o gyhoeddi canlyniadau Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Blwyddyn Dramor.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2017

Tîm o Ysgol Busnes Bangor yn cael eu penodi i archwilio trethi datganoledig Cymru

Yn dilyn proses dendro gystadleuol, mae tîm o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i archwilio rhagolygon refeniw trethi datganoledig a fydd yn cael eu cynnwys yng nghyllideb 2018-19.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2017

Law School staff sweep Student Led Teaching Awards nominations

Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi derbyn 14 enwebiad yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, sy'n adlewyrchiad o ymrwymiad yr ysgol i ofal bugeiliol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017

Ysgolhaig Ysgol Busnes Bangor yn cyflwyno mewn Seminar Cyfnewid Syniadau

Mae aelod o Ysgol Busnes Bangor wedi cyfrannu at seminar ddylanwadol ym maes llunio polisi yn ddiweddar.

Derbyniodd Dr Edward Jones, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Economeg, wahoddiad i draddodi mewn Seminar Cyfnewid Syniadau yng Nghaerdydd, a oedd yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017

Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd The GDR Today III

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael cynnal y drydedd mewn cyfres o gynadleddau ôl-raddedig sy’n dwyn y teitl The GDR Today ar 6-7 Ebrill 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017

Drink a Glass of Water for World Kidney Day

Mae Diwrnod Arennau'r Byd (9 Mawrth 2017) yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal ledled y byd i addysgu a chodi ymwybyddiaeth a chaiff ei gynnal ar yr ail ddydd Iau ym mis Mawrth. Bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau dirifedi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan elusennau arennol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, grwpiau cleifion ac unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Yfwch wydraid o ddŵr a dangoswch eich cefnogaeth ar twitter #@kidneydayUK-

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017

Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.

Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017

From Geoffrey Chaucer to Jeff Sessions, misspeaking is when you lie about lying

Dyma erthygl yn Saesneg gan John Olsson o’r Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017

Veillance

Arddangosfa Gynhyrchiol

Bocs Gwyn, Pontio, 24 Chwefror - 12 Mawrth 2017

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Dr Gillian Jein, Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi bod yn ymwneud â llunio a gwireddu 'Veillance', sef gwaith celf cynhyrchiol sy'n edrych yn greadigol ar faterion yn ymwneud â gwyliadwriaeth ac eglurder yn ein defnydd o'r rhyngrwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017

Diwrnod Rhyngwladol Merched

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2017