Newyddion: Ebrill 2017

Darlithydd yn ennill gwobr genedlaethol am ymchwil i ffug lysoedd barn

Yng nghynhadledd flynyddol yr Association of Law Teachers, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn ym Mhrifysgol Portsmouth, fe wnaeth Stephen Clear, Darlithydd yn y Gyfraith a Chydlynydd Ffug Lysoedd Barn Ysgol y Gyfraith Bangor, ennill gwobr bwysig Stan Marsh. Cipiodd Stephen y wobr am ei gyflwyniad poster gyda'r teitl: "Is This the Real Life, Is This Just Fantasy? Mooting, Employability and Expectations."

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017

Fact Check: Do six million people earn less than the living wage?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tony Dobbins o’r Ysgol Funses sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017

Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib

Mae'r tîm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol.

Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Gradd ddwbl yn derbyn gwobr bwysig gan y Gymdeithas Cyfreithwyr Ffrengig-Brydeinig

Mae'r Prifysgol Bangor a Université Toulouse-Capitole wedi derbyn Gwobr Robertson-Horsington 2017 gan y Franco-British Lawyers Society (FBLS) am eu rhaglen gradd ddwbl: y Drwydded/Meistr 1 mewn Cyfraith Ryngwladol / LLB Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc.  

Mae'r cwrs arloesol, rhyngwladol hwn sy'n rhoi gradd ddwbl yn y gyfraith yn cael ei gynnig mewn partneriaeth gan Toulouse-Capitole, Ffrainc a Phrifysgol Bangor. Caiff myfyrwyr gyfle i dreulio dwy flynedd yn astudio'r gyfraith yn y ddwy wlad, gan arwain at dderbyn gradd LLB Brydeinig a gradd Meistr I Ffrengig ar ôl pedair blynedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2017

All aboard for a train ticket to bring Europe together again

Dyma erthygl yn Saesneg gan , Ysgol Hanes ac Archaeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2017

Dyfarnu Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn y Brifysgol

Dr Alexander Sedlmaier, a reader in Modern History at Bangor University has been awarded a prestigious Marie Skłodowska-Curie Fellowship. These highly competitive fellowships are aimed at fostering interdisciplinary research, innovative academic training and international collaborations.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017

Celebrated 'English' poet Edward Thomas was one of Wales' finest writers

Shortly after 7am on April 9 1917, 39-year-old writer Edward Thomas was killed by a shell during the Battle of Arras in northern France. He left a body of mostly unpublished work that has since cemented his place as one of Britain’s greatest poets.

This article by Andrew Webb, Senior Lecturer in English Literature, was originally published on The Conversation. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017

Alex, myfyriwr israddedig, yn cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gyflogadwyedd

Llongyfarchiadau i Alex Wuergler, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, sydd wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor i gydnabod ei hymrwymiad i wella ei chyflogadwyedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017

Disgyblion yn derbyn gwobrau Ieithoedd Modern

Bu tua 150 o ddisgyblion 13-14 oed yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i dderbyn gwobrau ar ôl cymryd rhan yn y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, sy'n dangos i ddisgyblion ysgol pa mor fuddiol yw astudio ieithoedd tramor, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU.

Mae’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (Gwe), Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Bangor, Sefydliad Confucius Bangor, y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru a Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru wedi cyflwyno cyfres o areithiau ysgogol a sesiynau blasu Mandarin, Galisieg ac Iaith Arwyddion.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017