Newyddion: Tachwedd 2017

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi at her LifeStart

Mae Prifysgol Bangor yn un o 12 prifysgol yn y DU i gymryd rhan yn LifeStart - platfform her newydd a ddatblygwyd gan Virgin Money a Virgin StartUp. Nod LifeStart yw helpu myfyrwyr i sicrhau llwyddiant gyrfaol trwy eu helpu i ddysgu sgiliau menter ac ariannol, trwy gymryd rhan mewn heriau a chael cyfle i ennill gwobrau ar y ffordd.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2017

Taith astudio i galon yr Undeb Ewropeaidd

Ymwelodd myfyrwyr o Ysgolion Busnes a Chyfraith Prifysgol Bangor â rhai o sefydliadau allweddol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ym Mrwsel (Gwlad Belg), Lwcsembwrg a Strasbwrg (Ffrainc) yr wythnos diwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2017

Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion

A unique mentoring scheme, designed to encourage language learning amongst young people in Wales, has been awarded the prestigious Threlford Cup by the Chartered Institute of Linguists (CIOL).

The Modern Foreign Languages (MFL) Mentoring Scheme, which is led by Cardiff University’s School of Modern Languages, is funded by Welsh Government as part of its Global Futures plan which aims to improve and promote the take up of modern foreign languages in schools. In partnership with Swansea, Bangor and Aberystwyth Universities, the project undertakes a nationwide approach to increasing inter-cultural understanding and promoting language learning at key stages.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

AS Cymru yn trafod ‘Brexit Prydain’ gyda myfyrwyr y Gyfraith

Bu Mr Hywel Williams, AS dros Etholaeth Arfon, yn ymweld ag Ysgol y Gyfraith Bangor yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Senedd y DU i gyflwyno darlith gwadd, 'Rôl AS Cymru yn Brexit Prydain'. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Bangor yn cynnal yr ail gystadleuaeth flynyddol ar ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd'

Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn cael ei chynnal am yr eildro trwy bartneriaeth â Phrifysgol Bangor a'r cyhoeddwr lleol Wonderbox.

Mae'r Gystadleuaeth Ymestyn Ysgrifennu Ffuglen Ddigidol, a gynhelir gan Brifysgol Bangor a Wonderbox Publishing, yn cael ei hariannu gan Wobr Cyflymu Effaith yr ESRC ym Mangor. Gwahoddir ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r byd mewn dwy iaith - Cymraeg neu Saesneg i wonderboxpublishing.com

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2017

Nofel gyntaf y darlithydd Alys Conran yn Ennill Llyfr y Flwyddyn 2017

Alys Conran oedd yr enillydd amlycaf yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni, gan gipio tair gwobr yn y seremoni wobrwyo. Enillodd un o’r prif wobrau, sef gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn, am ei nofel gyntaf, Pigeon, gan dderbyn tlws wedi ei gomisiynu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones, a gwobr ariannol o £4000. Enillodd y nofel honno Wobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Dewis y Bobl iddi hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017

Ymgynghorwyr Ernst & Young yn cynnal gweithdy gyda myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor

Yn ddiweddar, dychwelodd Peter Bellamy, alumni Prifysgol Bangor, sydd bellach yn gweithio i gynghorwyr blaenllaw ledled y byd, Ernst & Young, Efrog Newydd, i Ysgol Fusnes Bangor i gyflwyno gweithdy i fyfyrwyr busnes.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017

Gwobrwyo rhagoriaeth academaidd

Hoffem longyfarch dau fyfyriwr sydd yn eu hail flwyddyn ar dderbyn gwobrau'n ddiweddar am safon eithriadol eu gwaith yn ystod blwyddyn gyntaf eu gradd.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2017

Myfyrwraig yn ennill Ysgoloriaeth PhD Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Bydd Emma Buchanan yn gweithio dan arolygaeth Dr Lucy Huskinson ar brosiect a fydd yn ailgloriannu theori gender drwy ddefnyddio syniadaeth Jung a chan astudio'r rhaglen deledu, The Walking Dead.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2017

Ysgol yn croesawu staff academaidd newydd

Hoffai Ysgol Athroniaeth a Chrefydd groesawu dau aelod newydd o staff, Mr Joshua Andrews a Mr Gareth Evans-Jones, a fydd ill dau'n darlithio ym maes Astudiaethau Crefyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2017

Mae Bangor yn golygu busnes yn y Ffair Yrfaoedd flynyddol

Mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol, nid yw hi byth yn rhy gynnar i fyfyrwyr ddechrau meddwl am eu hopsiynau gyrfa.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017

Seiciatrydd o Wrecsam yn derbyn gwobr cyflawniad oes

Mae seiciatrydd a leolir yn Wrecsam wedi derbyn gwobr cyflawniad oes gan y Coleg Seiciatryddol Brenhinol, am ei waith di flino yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ddifreintiedig a'r rhai ar y cyrion.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017

Why Holocaust jokes can only be told by a Jewish comedian

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Nathan Abrams  o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017