Newyddion: Rhagfyr 2017

Llwyddiant Seremoni Raddio’r gaeaf

Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos diwethaf, yn enwedig i enillwyr gwobrau yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Llwyddiant Seremoni Raddio’r gaeaf

Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos diwethaf, yn enwedig i enillwyr gwobrau Ysgol Busnes Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Llwyddiant Seremoni Raddio’r gaeaf

Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos diwethaf, yn enwedig i enillwyr gwobrau Ysgol y Gyfraith.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Tory attack on Working Time Directive signals a post-Brexit race to the bottom

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Tony Dobbins o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Dwyieithrwydd a syndrome Down

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cyhoeddi erthygl gan fyfyriwr PhD Rebecca Ward a Dr Eirini Sanoudaki.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2017

Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau

Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.  

Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Lessons from the Beeching cuts in reviving Britain's railways

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).

Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

O’r Byd Newydd i’n byd ni – cyfieithiad newydd o nofel epig Jerry Hunter

Mae cyfieithiad newydd o nofel Gymraeg gan Yr Athro Jerry Hunter yn taflu goleuni ar bennod lled-anghofiedig o Ryfel Cartref Lloegr – a hanes Cymru – pan ddaru milwyr o fyddin Cromwell daro ar griw o ferched yn gynnar wedi terfyn Brwydr Naseby ym 1645. Gyda Chymraeg y merched yn estron i glustiau milwyr Cromwell, tybiwyd mai Pabyddion Gwyddelig oedden nhw a lladdwyd dros gant ohonynt yn y fan a’r lle gan y milwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2017