Newyddion: Hydref 2018

Degfed blwyddyn Cyrsiau Preswyl Ysgol y Gymraeg yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn

Cyrsiau Cymraeg Iaith Gyntaf (19-21 Tachwedd 2018) ac Ail Iaith (21-23 Tachwedd 2018)

Mae cyrsiau preswyl Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, wedi hen ennill eu plwyf ymhlith disgyblion ac athrawon. Bellach yn eu degfed blwyddyn, maent yn gyfle blynyddol i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf ddod ynghyd i gael gwledd o drafodaethau ar y meysydd a’r materion sy’n berthnasol i’w cyrsiau Cymraeg Safon U/UG.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Family habit of inheriting volunteer roles could help small charities

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones, Myfyrwraig Phd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn r#mce_temp_url#hannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Yr Athro Jonathan Williams yn ymweld â Phartneriaethau Ysgol Busnes Bangor yn Tsieina

Ym mis Medi ymwelodd Yr Athro Jonathan Williams â phartneriaid pwysig Ysgol Busnes Bangor yn BFSU (Prifysgol Astudiaethau Tramor Beijing), TNU (Prifysgol Normal Tianjin), SUFE (Prifysgol Cyllid ac Economeg Shanghai), CCZU (Prifysgol Changzhou) a ZUFE (Prifysgol Cyllid ac Economeg Zheijiang)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr arloesol ar hanes mwyngloddio lleol

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi lansio llyfr am y pyllau glo yng Nghwm Rheidol ac Ystumtuen ar ôl dechrau gweithio arno yn wyth oed.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Myfyrwyr Bangor yn cynrychioli projectau Ymwneud â'r Gymuned yn Nhŷ'r Cyffredin

Rhoddwyd cyflwyniad gan grŵp o gynrychiolwyr Prifysgol Bangor i'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ieithoedd Modern yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddar. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr, gydag aelodau seneddol eraill a chynrychiolwyr Tŷ'r Arglwyddi, y Cyngor Prydeinig, y Comisiwn Ewropeaidd, Goethe Institut, Sefydliad Confucius a sefydliadau a phrifysgolion eraill ledled y DU yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Newid Cymru - Canolfan ymchwil genedlaethol yn dathlu deng mlynedd

The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods (WISERD) is celebrating ten years of influencing policy and debate.

A collaboration of five Welsh universities (Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea), WISERD has carried out a decade of pioneering research, providing important insights into the social and economic challenges facing Wales.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018

Ffiseg Gwantwm a Chwedlau Cymraeg yn Harvard

Yn ddiweddar, rhoddodd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg y brif ddarlith yn yr 'Harvard Celtic Colloquium'. Dyma gynhadledd flynyddol fyd-enwog sy'n tynnu ynghyd ysgolheigion Celtaidd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018

Prifysgol Bangor yn cynnal Dosbarthiadau Meistr Cerdd yn Tsieina

Bydd Iwan Llewelyn Jones, academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, yn ymweld â Tsieina yn ddiweddarach y mis hwn i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr  i fyfyrwyr cerddoriaeth yn Beijing, Shanghai a Guangzhou.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018

Cynhadledd Astudiaethau Almaenaidd yn cyflwyno Alexander Kluge i Gymru

Pleser mawr i'r Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol Bangor oedd cynnal cynhadledd flynyddol yr Association for German Studies in Great Britain and Ireland (AGS)ar 29-31 Awst 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018

Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Pedwar myfyriwr Prifysgol Bangor yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bu pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymgymryd â her flynyddol Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018

Universities must look at local employment markets when building their graduates' skills

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Teresa Crew o’r YsgolHanes, Athroniaeth a gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Why we should give prejudiced students a voice in the classroom

Dyma erthygl yn Saesneg gan Corinna Patterson o'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2018

Gwobr Fulbright yn gwireddu ymchwil Telyn Deires

Mae myfyrwraig o’r Unol Daleithiau newydd gychwyn ar radd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi iddi dderbyn Gwobr Fulbright uchel ei bri.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2018