Newyddion: Rhagfyr 2018

Acolâd pellach i fardd nodedig

Mae Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigolyn yr Ysgol Ieithoedd, llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth wedi ennill gwobr Michael Marks am y bamffled orau o farddoniaeth a gyhoeddwyd rhwng Medi 2017 a Medi 2018. Dyfarnwyd y Wobr ar gyfer Bezdelki/Small Things a lansiwyd yn Pontio yn y gwanwyn.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018

Dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu i Lywydd MDIS

Mewn seremoni arbennig, mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu bwysig i Dr Eric Kuan, Llywydd Management Development Institute of Singapore (MDIS).

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018

Administrative justice can make countries fairer and more equal – if it is implemented properly

Dyma erthygl yn Saesneg gan Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Mae cyfiawnder gweinyddol yn effeithio arnom i gyd - nawr yw'r amser i roi mwy o ystyriaeth iddo

Efallai nad ydych erioed wedi ystyried cyfiawnder gweinyddol, ond mae'n effeithio ar bob un ohonom - ac mae llawer ohono wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gallwn fynd at gyrff penodol i geisio iawn os ydym yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsom mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Mae Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, newydd gyhoeddi adroddiad sy'n adolygu beth yw'r sefyllfa bresennol a'r camau nesaf i gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru drwy dynnu ynghyd y penderfyniadau gweinyddol a ddatganolwyd i Gymru a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Psychotherapy can make you richer - especially if you are a man

Dyma erthygl yn Saesneg gan Noemi Mantovan o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2018

Gwneud ei farc ar restr fer y British Education Awards

Mae Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr y British Education Award (BEA). Mae’r Gwobrau hyn yn hybu arbenigedd o fewn y gyfundrefn addysg ym Mhrydain ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

Mynd i’r afael â thlodi bwyd

Bu tri aelod o staff Prifysgol Bangor yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru (NWFPA) yng Nghanolfan OpTIC  Llanelwy yn ddiweddar.

Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd yn ford gron a nifer o sectorau’n aelodau o dan gadeiryddiaeth Cyngor Sir Fflint. Nod y Gynghrair yw mynd i’r afael â’r heriau lu sydd o ran tlodi bwyd yn y gogledd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

Creadigrwydd hynod – cyhoeddi chwe llyfr mewn tri mis!

Rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni mae staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi cyhoeddi cyfanswm o chwe chyfrol o ysgrifennu creadigol - yn nofelau, storïau byrion a chyfrolau o farddoniaeth – gan ychwanegu at enw da’r Ysgol ym maes ysgrifennu creadigol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018